>
> Newydd ateb e-bost Carolyn a gweld y neges yma, Dafydd. Trwsio sy'n
> cyd-fynd yn fwy naturiol â'r gystrawen yn y cyd-destun sy gen i ond
> efallai ei fod braidd yn gamarweiniol.
>
> Fyddai cywiro neu 'cywiriad yn well? Wedi'r cyfan mae rhywun yn cywiro
> sanau!
Yn Saesneg mi fyddai angen gwahaniaeth rhwng patch a fix/correct
h.y. "a patch to fix a bug", neu "a patch to correct the problem".
Mi allai 'cywiro' olygu unrhyw fath o newid bach i ddatrys problem,
tra fod 'patch' yn golygu 'darnyn bach o feddalwedd'. Yn aml, ond ddim
bob tro, mae e'n ateb dros dro i gywiro gwall.
Dwi'n meddwl fod 'cywiro' neu 'cywiriad' yn dermau mwy addas ar gyfer
beth sydd i'w weld o ochr y defnyddiwr tra fyddai rhaglennwyr yn
meddwl yn nhermau 'patch' i'r cod.
e.e. yn y frawddeg "Apply a patch to fix a bug" dwi'n meddwl fod
"gosod trwsiad i gywiro nam" yn well na
"gosod cywiriad i drwsio nam".
Er mae dadl dros beidio trosi a jyst defnyddio 'patsh' (ond wedyn mi
fyddai berf 'patshio' a mae hwnna'n ych).
|