On Dec 05, 2008, Meleri H. Hughes wrote:
> 'Darn' sydd yn y Geiriadur Termau Cyfrifiadureg.
Y broblem yw fod patch yn ferf hefyd
"I am going to apply a patch to the software"
"I am going to patch the software"
"I have patched the software"
Mae braidd yn rhyfedd i ddweud "gosod darn i drwsio meddalwedd"
a dyw hi ddim yn bosib dweud 'darnio' neu 'darniad' am fod eu ystyr
arferol yn golygu torri/rhannu.
Mi fyddai'n fwy naturiol i ddweud "trwsio'r meddalwedd" a felly
"trwsio" fel berf yn hytrach na "patch" a "trwsiad" fel y darn
bach o feddalwedd sy'n cael ei osod ar ben y meddalwedd gwreiddiol.
|