'sgrifennodd Carolyn Iorwerth,
> Heblaw am bobl sy'n ymhel â chyfrifiaduron o hyd fyddai fawr neb yn gwybod
> beth yw Trojan Horses ychwaith - a gan mai 'Trojans' sy'n cael ei ddefnyddio
> fwyaf erbyn hyn dw i wir ddim yn gweld pwynt cyfieithu rhywbeth sy'n drosiad
> i gyfleu'r syniad o dwyll neu ymosodiad cudd.
Yn wir, hyd yn oed i bobl sy'n gweithio yn y maes fel fi, prin iawn
dwi'n defnyddio'r term (yn Saesneg). A pryd fasen i'n defnyddio'r term
Cymraeg? Byth. Yr unig bobl sy'n debygol o weld a defnyddio'r termau
yma o ddydd i ddydd yw cyfieithwyr! Felly ni fyddai 'Ceffyl Troea' yn
dod yn gyfarwydd i unrhyw siaradwr Cymraeg cyffredin. Dyma pam fod
rhan fwyaf o bobl yn troi i'r fersiwn Saesneg mewn dogfennau technegol.
Er mod i'n gyfarwydd a'r syniad o 'trojan horse' yn saesneg, doedd
Troea/Caerdroea yn golygu dim i mi. Os oedd e'n cael ei ddefnyddio yn
y cyd-destun o ddiogelwch cyfrifiadurol, mi allwn i fod wedi dyfalu
(dim ond am fod 'trojan horse' yn gyfarwydd yn y maes yma). I ddweud y
gwir mi fyddai "Ceffyl Pren" yn fwy o gliw i ystyr y term (a dwi ddim
yn son am y grwp roc).
|