On Mon, Jul 07, 2008 at 02:08:25PM +0100, Claire Richards wrote:
> Wel, mae'n rhaid i mi roi rhywbeth! Dwi'n cyfieithu Telerau ac Amodau gwefan, lle ceir sôn am "computer viruses", "Trojan horses" a "worms". (Sylwer mai'r enw llawn sydd yn y Saesneg).
Os yw'n hawdd newid iaith y dudalen yn y wefan (fel y ddylai fod)
mae'n bosib nad oes ots o ddefnyddio term anghyfarwydd, am na fyddai
defnyddwyr cyffredin yn deall beth yw 'mwydyn' na 'worm' yn y
cyd-destun yma chwaith. Mae pawb yn deall (neu yn meddwl eu bod nhw)
feirws yn y cyd-destun am ei fod yn derm cyffredin yn y cyfryngau.
Mae'n iawn defnyddio termau anghyfarwydd yn nhestun
amodau/cyfreithiol, yn enwedig os yw'n hawdd gweld y fersiwn saesneg,
am mod i'n sicr na fydd 99.99% o ddefnyddwyr yn eu darllen. Os oedd e
mewn cyd-destun lle roedd hi'n bwysig iawn fod y darllenwr yn deall yr
ystyr, fe fyddai angen esboniad fwy manwl, yn amlwg.
|