Ann Corkett wrote:
> Ymddiheuriadau - 'doeddwn i ddim wedi darllen y neges hyd y diwedd a
> gweld eich bod chi eisoes yn awgrymu "crwybr magu", oedd yn awgrym Bruce
> hefyd, ar ol iddo ystyried y mater.
>
> Ers hynny, ac ers gadael neges ar gyfer y cyfaill ym Moelfre, mae Bruce
> wedi ffonio Mel Williams Golygydd "Y Casglwr", sy'n cadw gwenyn ac sydd
> wedi ysgrifennu llyfr ar y grefft, "Y Fe^l Ynys". Mae o'n methu rhoi ei
> law ar ei lyfr ei hun y munud yma, ond yn cofio mai "[yr] epil" yw'r
> gair arferol am "brood", ac felly 'roedd o wedi defnyddio "crwybr yr epil".
>
> Gan obeithio na fydd y cyfaill arall yn ffonio'n ol heno gydag awgrym
> arall!
>
> Ann
> ----- Original Message ----- From: "Ann Corkett" <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Wednesday, June 04, 2008 3:44 PM
> Subject: Re: brood comb
>
>
> Sylvia,
>
> O edrych dan "comb" yn GyrA, cewch eich arwain at "honeycomb", lle cewch
> "crwybr", ac o edrych dan "crwybr" yn GPC, cewch "adeiladwaith y gwenyn i
> gynnwys yr me^l a'r wyau...". Byddwn i'n meddwl y byddai "crwybr wyau" yn
> agos ati. OND mae gan Bruce ffrind ym Moelfre sy'n cadw gwenyn - allwch
> chi aros awr neu ddwy iddo gysylltu ag ef i gadarnhau?
>
> Ann
> Sylvia.
Diolch yn fawr iawn Ann - a Bruce - am fynd i'r fath drafferth ar fy
rhan! Roeddwn i wedi pori yn G yr A ac yno gwelais i'r enw 'crwybr'.Bydd
yn rhaid i mi geisio cael gafael ar lyfr Mel Williams achos byddaf yn
breuddwydio o bryd i'w gilydd am gadw gwenyn yn yr honglad o ardd sydd
gen i acw.
Sylvia.
--
Dr Sylvia Prys Jones 01248 382036 <[log in to unmask]>
Uned Gyfieithu/Translation Unit
Canolfan Bedwyr
Prifysgol Cymru, Bangor/University of Wales, Bangor
--
Gall y neges e-bost hon, ac unrhyw atodiadau a anfonwyd gyda hi,
gynnwys deunydd cyfrinachol ac wedi eu bwriadu i'w defnyddio'n unig
gan y sawl y cawsant eu cyfeirio ato (atynt). Os ydych wedi derbyn y
neges e-bost hon trwy gamgymeriad, rhowch wybod i'r anfonwr ar
unwaith a dilëwch y neges. Os na fwriadwyd anfon y neges atoch chi,
rhaid i chi beidio â defnyddio, cadw neu ddatgelu unrhyw wybodaeth a
gynhwysir ynddi. Mae unrhyw farn neu safbwynt yn eiddo i'r sawl a'i
hanfonodd yn unig ac nid yw o anghenraid yn cynrychioli barn
Prifysgol Bangor. Nid yw Prifysgol Bangor yn gwarantu
bod y neges e-bost hon neu unrhyw atodiadau yn rhydd rhag firysau neu
100% yn ddiogel. Oni bai fod hyn wedi ei ddatgan yn uniongyrchol yn
nhestun yr e-bost, nid bwriad y neges e-bost hon yw ffurfio contract
rhwymol - mae rhestr o lofnodwyr awdurdodedig ar gael o Swyddfa
Cyllid Prifysgol Bangor. www.bangor.ac.uk
This email and any attachments may contain confidential material and
is solely for the use of the intended recipient(s). If you have
received this email in error, please notify the sender immediately
and delete this email. If you are not the intended recipient(s), you
must not use, retain or disclose any information contained in this
email. Any views or opinions are solely those of the sender and do
not necessarily represent those of the Bangor University.
Bangor University does not guarantee that this email or
any attachments are free from viruses or 100% secure. Unless
expressly stated in the body of the text of the email, this email is
not intended to form a binding contract - a list of authorised
signatories is available from the Bangor University Finance
Office. www.bangor.ac.uk
|