annes gruffydd wrote:
> Ym myd trafnidiaeth, trio cael gan bobol newid eu ffordd o deithio a
> mynd ar y bys neu'r tren yn lle'r car ayyb. Rwan ta, ydi modal shift yn
> derm technegeol ac yn berffaith ddealladwy ta dim ond enghraifft arall o
> councilspeke (ne squeak) jargonllyd sy'n cymylu petha? Os mai'r cynta
> ydi o, fasach chi i gyd yn dallt 'newid moddol'? Os mai'r ail ydi o,
> 'newid dull teithio' fasa'n ei gyfleu ynte? Heb fod yn glogyrnaidd, dim
> ond un gair yn hwy. Diolch ymlaen llaw
>
> Annes
Dw i'n cofio cyfieithu dogfen tua naw mlynedd yn ôl oedd yn ymwneud â
chludo nwyddau ac yn sôn am intermodal terminals etc. sef mannau lle
mae'n bosib newid o'r rheilffordd i'r ffordd etc. Dw i'n cofio mod i
wedi gorfod defnyddio moddol oherwydd bod y ddogfen yn ofnadwy o
dechnegol a byddai defnyddio ymadrodd mwy cwmpasog a naturiol wedi
golygu bod y Gymraeg tua dwywaith hyd y Saesneg. Ond dw i'n meddwl bod
newid dull teithio yn gwbl dderbyniol a dealladwy.
--
Dr Sylvia Prys Jones 01248 382036 <[log in to unmask]>
Uned Gyfieithu/Translation Unit
Canolfan Bedwyr
Prifysgol Cymru, Bangor/University of Wales, Bangor
--
Gall y neges e-bost hon, ac unrhyw atodiadau a anfonwyd gyda hi,
gynnwys deunydd cyfrinachol ac wedi eu bwriadu i'w defnyddio'n unig
gan y sawl y cawsant eu cyfeirio ato (atynt). Os ydych wedi derbyn y
neges e-bost hon trwy gamgymeriad, rhowch wybod i'r anfonwr ar
unwaith a dilëwch y neges. Os na fwriadwyd anfon y neges atoch chi,
rhaid i chi beidio â defnyddio, cadw neu ddatgelu unrhyw wybodaeth a
gynhwysir ynddi. Mae unrhyw farn neu safbwynt yn eiddo i'r sawl a'i
hanfonodd yn unig ac nid yw o anghenraid yn cynrychioli barn
Prifysgol Bangor. Nid yw Prifysgol Bangor yn gwarantu
bod y neges e-bost hon neu unrhyw atodiadau yn rhydd rhag firysau neu
100% yn ddiogel. Oni bai fod hyn wedi ei ddatgan yn uniongyrchol yn
nhestun yr e-bost, nid bwriad y neges e-bost hon yw ffurfio contract
rhwymol - mae rhestr o lofnodwyr awdurdodedig ar gael o Swyddfa
Cyllid Prifysgol Bangor. www.bangor.ac.uk
This email and any attachments may contain confidential material and
is solely for the use of the intended recipient(s). If you have
received this email in error, please notify the sender immediately
and delete this email. If you are not the intended recipient(s), you
must not use, retain or disclose any information contained in this
email. Any views or opinions are solely those of the sender and do
not necessarily represent those of the Bangor University.
Bangor University does not guarantee that this email or
any attachments are free from viruses or 100% secure. Unless
expressly stated in the body of the text of the email, this email is
not intended to form a binding contract - a list of authorised
signatories is available from the Bangor University Finance
Office. www.bangor.ac.uk
|