Dw i'n deall y pwynt ond nid rhag ofn i'r plant beidio â deall
roeddwn i'n ystyried peidio â defnyddio "eisiau ar" ond am fod arna i
eisiau defnyddio'r cywair priodol.
Dw i wedi bod yn treio cadw'n weddol agos at gywair beibl.net ond
mae'n debyg y bydda i'n tynhau tipyn ar y mynegiant wrth edrych dros
y cyfieithiad.
On 7 May 2008, at 10:31, Muiris Mag Ualghairg wrote:
> Mae hyn yn codi nifer o gwestiynau diddorol o ran cywair ac ati. Ond
> mae cwestiwn arall, sef beth yw pwrpas llyfrau i blant? Pan fyddaf i'n
> darllen i'm mab dwy oed dw i'n defnyddio'r llyfrau i'm helpu i ymestyn
> ei iaith ac mae osgoi defnyddio rhai geiriau arferol 'rhag ofn' na
> fydd y plant yn eu deall yn sicrhau na fydd y plant byth yn eu deall!
> Dw i ddim yn gweld dim byd yn bod ar ddefnyddio ffurfiau fel 'am' a
> 'dymuno' yn y cyd-destun yma (ac mae plant bach yn clywed dymuno yn y
> cylch Ti a Fi) ac yn clywed 'am' yn naturiol gartref.
|