Dw i wrthi'n cyfieithu Beibl i Blant - tua 400 tudalen.
Dw i'n ceisio defnyddio arddull eithaf anffurfiol ond cywir.
Mae "want" yn digwydd yn aml iawn:
I want, He wanted ac ati.
Dw i'n gweld bod beibl.net yn rhedeg "bod" gydag "eisiau"
e.e. "Ond paid gwneud beth dw i eisiau, gwna beth rwyt ti eisiau."
Dw i'n cael fy nhynnu ddwy ffordd - mae'r ffurf gydag "ar" yn swnio'n eitha stiff yn aml ond mae
trefn beibl.net yn dal i daro braidd yn chwithig.
"Defnyddir y gystrawen ansafonol uchod weithiau mewn arddulliau anffurfiol eithr nid yw'r
gystrawen newydd wedi ei chyffredinoli i bob cyd-destun gan bawb sy'n ei harfer" - yn ôl Peter
Wynn Thomas.
Dw i wedi bod yn ceisio osgoi'r broblem a dweud pethau fel "Roedd e'n dymuno mynd ..."! "Roedd
hi am wneud ..." ond dw i ddim yn siwr pa mor ddealladwy yw hyn i blant
Oes gan rywun farn?
Diolch yn fawr
Siân
|