Diolch am hyn! Defnyddiol - a diddorol - iawn.
Steffan
> -----Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and
> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On
> Behalf Of Non
> Sent: 04 January 2008 13:33
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: Rocket Leaves
>
>
> O'n i'n digwydd gwybod mai 'rucola' neu 'rugola' yw 'rocket'
> yn yr Eidaleg.
> Mae'r enw hwnnw (cynhenid - 'arugula', sef yr enw yn America
> yn ôl pob
> tebyg) yn fwy cyfarwydd yn gyffredinol ym myd coginio (mewn
> pesto, ar pizza
> ayb) na 'rocket' (sy'n enw diweddar yn deillio ohono, dw i'n amau).
>
> O edrych ar Wikipedia wy'n gweld mai 'eruca sativa' yw'r enw
> Lladin gw.
> http://en.wikipedia.org/wiki/Arugula Enw amdano yw rocket
> salad neu garden
> rocket. Yng ngeiriadur yr Academi, fe geir 'arfog y gerddi' a
> 'berwr y
> gerddi' am eruca sativa.
>
> Swn i'n sdicio at arugula, neu 'ddail berwr y gerddi' a rhoi
> arugula neu
> rocket mewn cromfachau.
>
> Non
>
>
> ----- Original Message -----
> From: "Alun, Steffan" <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Friday, January 04, 2008 12:36 PM
> Subject: Rocket Leaves
>
>
> Sôn am salad, hynny yw. Yn ôl Geiriadur yr Academi, "berwr"
> yw'r gair am
> "rocket" ym myd botaneg. Ai "dail berwr" yw "rocket leaves",
> felly? A sut,
> os hynny, fyddai gwahaniaethu rhwng "rocket" a "cress"?
>
> Steffan
>
>
> ******************************************************************
> This e-mail and any files transmitted with it are
> confidential and intended
> solely for the use of the individual or entity to whom they
> are addressed.
> If you have received this e-mail in error, please notify the
> administrator
> on the following address: [log in to unmask]
>
> Mae'r e-bost hwn ac unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag ef
> yn gyfrinachol
> ac at ddefnydd yr unigolyn neu'r corff y cyfeiriwyd hwy atynt
> yn unig. Os
> ydych wedi derbyn yr e-bost hwn drwy gamgymeriad, dylech hysbysu'r
> gweinyddydd yn y cyfeiriad canlynol: [log in to unmask]
> *******************************************************************
>
|