Rwy'n credu mai "Croeso i noson Gwobrau Cenedlaethol ****" fyddai fy newis i
ar bapur a "Croeso i noson cyflwyno Gwobrau Cenedlaethol ****" ar lafar.
Rwy'n cymryd dy fod ti'n gwybod i sicrwydd mai gyda'r nos y caiff y gwobrau
eu cyflwyno!
Berwyn
----- Original Message -----
From: "Sian Roberts" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Saturday, September 15, 2007 10:57 AM
Subject: awards
Shwt mae dweud "Welcome to the National *** Awards"?
Hynny yw, gair o groeso yn rhaglen Gwobrau Cenedlaethol ****
Yr hyn mae'n ei olygu yw "Welcome to the National *** Awards ceremony" ond
mae "Awards" yn cael
ei ddefnyddio i gyfleu "noson cyflwyno gwobrau".
Alla i ddweud "Croeso i Wobrau Cenedlaethol ****" - (nad yw'n gwneud synnwyr
ā dweud y gwir)?
neu a fyddai'n well dweud
"Croeso i noson Gwobrau Cenedlaethol ****" neu hyd yn oed "Croeso i noson
gyflwyno Gwobrau
Cenedlaethol ****" sy'n mynd yn ofnadwy o hir?
O diar
Siān
--
No virus found in this incoming message.
Checked by AVG Free Edition.
Version: 7.5.487 / Virus Database: 269.13.19/1008 - Release Date: 14/09/2007
08:59
|