Rwy'n credu mai "Croeso i noson Gwobrau Cenedlaethol ****" fyddai fy newis i ar bapur a "Croeso i noson cyflwyno Gwobrau Cenedlaethol ****" ar lafar. Rwy'n cymryd dy fod ti'n gwybod i sicrwydd mai gyda'r nos y caiff y gwobrau eu cyflwyno! Berwyn ----- Original Message ----- From: "Sian Roberts" <[log in to unmask]> To: <[log in to unmask]> Sent: Saturday, September 15, 2007 10:57 AM Subject: awards Shwt mae dweud "Welcome to the National *** Awards"? Hynny yw, gair o groeso yn rhaglen Gwobrau Cenedlaethol **** Yr hyn mae'n ei olygu yw "Welcome to the National *** Awards ceremony" ond mae "Awards" yn cael ei ddefnyddio i gyfleu "noson cyflwyno gwobrau". Alla i ddweud "Croeso i Wobrau Cenedlaethol ****" - (nad yw'n gwneud synnwyr ā dweud y gwir)? neu a fyddai'n well dweud "Croeso i noson Gwobrau Cenedlaethol ****" neu hyd yn oed "Croeso i noson gyflwyno Gwobrau Cenedlaethol ****" sy'n mynd yn ofnadwy o hir? O diar Siān -- No virus found in this incoming message. Checked by AVG Free Edition. Version: 7.5.487 / Virus Database: 269.13.19/1008 - Release Date: 14/09/2007 08:59