Diolch Huw - braf arnat ti!
Na, mae 'na wahaniaeth - dw i'n meddwl y galli di blannu coeden i
wneud iawn am y carbon sy'n cael ei ryddhau o dŷ ac yna'i alw yn dŷ
carbon-niwtral. Dydi tŷ zero-carbon ddim yn rhyddhau carbon o gwbwl.
Dw i'n meddwl - wna i edrych yn iawn pan ga i gyfle fory
Diolch
Siân
On 13 Sep 2007, at 18:07, Huw Garan wrote:
> Ymddiheuriadau am ateb mor hwyr, newydd ddychwelyd o gynhadledd yn
> Llydaw ydw i.
>
> A fyddai 'tŷ carbon-niwtral' yn cyfleu'r un peth neu a ydw in
> cymysgu rhwng syniadau gwahanol?
>
>
> Hg
>
>
>
> -----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message-----
> Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology
> and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran
> Melanie Davies
> Anfonwyd/Sent: 07 September 2007 11:35
> At/To: [log in to unmask]
> Pwnc/Subject: Re: zero carbon
>
> Gallech ddweud yr un peth am y Saesneg. O edrych ar y we nawr, mai
> di-garbon wedi'i ddefnyddio gan y Cynulliad ac mae "rhydd o garbon"
> wedi'i ddefnyddio ar wefan Plaid Cymru.
>
> ----- Original Message -----
> From: "Siân Roberts" <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Friday, September 07, 2007 11:16 AM
> Subject: Re: zero carbon
>
>
> Yr hyn oedd yn fy mhoeni i oedd bod "adeilad di-garbon" yn swnio fel
> "adeilad nad yw'n cynnwys carbon" (neu "adeilad heb garbon" yn
> hytrach nag adeilad nad yw'n rhyddhau carbon i'r amgylchedd.
>
> Ond os yw wedi cael ei dderbyn, dw i ddim eisiau mynd yn groes - a dw
> i ddim yn siwr ffordd orau i'w ddweud beth bynnag.
>
>
> On 7 Sep 2007, at 11:07, Melanie Davies wrote:
>
>> Beth am "dy heb garbon" er mwyn osgoi "dy di-garbon" (gormod o "d")?
>>
>> ----- Original Message ----- From: "Sian Roberts"
>> <[log in to unmask]>
>> To: <[log in to unmask]>
>> Sent: Friday, September 07, 2007 10:39 AM
>> Subject: zero carbon
>>
>>
>> Zero-carbon - Sôn am adeiladau:
>> Dw i wedi gweld "di-garbon" yn cael ei ddefnyddio - fel yn y
>> diffiniad
>> isod ond dydw i ddim yn hollol
>> siwr a yw'n gywir. Beth y'ch chi'n feddwl?
>>
>> "Y diffiniad o dy di-garbon yw un sydd ddim yn gollwng carbon o'r
>> egni
>> sy'n cael ei ddefnyddio yn y
>> ty."
>>
>> Diolch
>> Siân
>
> No virus found in this incoming message.
> Checked by AVG Free Edition.
> Version: 7.5.485 / Virus Database: 269.13.16/1005 - Release Date:
> 13/09/2007 11:45
>
>
> No virus found in this outgoing message.
> Checked by AVG Free Edition.
> Version: 7.5.485 / Virus Database: 269.13.16/1005 - Release Date:
> 13/09/2007 11:45
>
|