Rhian - Dyna roedden ni'n feddwl hefyd - ac roedden ni bob amser yn
cywiro pobl oedd yn defnyddio "rhelyw" i olygu "mwyafrif" ar y teledu
neu'r radio (er nad oedden nhw ddim callach!) - ond, wrth fynd i GPC
i brofi 'mhwynt rhyw ddiwrnod, beth welwn i ond:
rhelyw: lleill, rhai sydd ar ôl, gweddill, gwarged; mwyafrif;
gweddill (am arian), ôl-ddyled.
O wel! Ac mae'n debyg mai'r ystyr "mwyafrif" sydd gryfa erbyn hyn.
Hwyl
Siân
On 11 May 2007, at 08:33, Rhian Huws wrote:
> Yn ôl Canllawiau Iaith a Chymorth Sillafu J. Elwyn Hughes, nodir
> 'Ystyr 'y rhelyw' yw 'y gweddill' nid 'y rhan fwyaf' neu 'y
> mwyafrif', ac fel cyn athro i mi, mae hwn wedi ei serio ar fy nghof!
> Rhian
> Canolfan Iechyd Cymru
>
> -----Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and
> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf
> Of Dewi Bowen Williams
> Sent: 10 May 2007 18:04
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: I'r gwrthwyneb
>
> Annwyl Huw,
> Beth am rhelyw: remainder, residue
> rhelyw: majority
> Dewi
>
> -----Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and
> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf
> Of Huw Roberts
> Sent: 10 Mai 2007 10:48
> To: [log in to unmask]
> Subject: I'r gwrthwyneb
>
> Annwyl gyfeillion,
>
> Rwy*n chwilio am eiriau sydd ag union yr un sillafiad, ond ag ystyr
> gwrthwynebol. Enghraifft Saesneg yw *cleave* * hynny yw, beth
> wnewch chi â bwyell, a *I cleave to thee, my country*.
>
> Dwi wedi meddwl am *dwyn* * *Rwy*n dwyn yr enw Huw Roberts* a
> *Rwy*n dwyn eich bwyell*.
>
> Diolch yn daclus o flaen llaw.
>
>
>
> Huw Roberts
> Cyfieithydd / Translator
> (029) 2078 1432
> 07957 182 087
> [log in to unmask]
> Dros Gymru'n gwlad!
|