Credais innau hefyd mai anghywir oedd defnyddio "rhelyw" yn yr ystyr
"mwyafrif", a dyna 'dw i wedi'i glywed gan Bruce hefyd. Codais y cwestiwn
efo fo, a fo'n dweud, os deallaf yn iawn, fod geiriaduron mawrion un-ffordd
yn rhestru unrhyw ystyr sydd wedi'i ddefnyddio, hyd yn oed y rhai nas
cymeradwyir. Mae hynny'n gwneud bywyd yn anodd iawn, on'd ydy!? Er hynny,
mae'n ymddangos o GPC, o edrych ar yr atalnodi rhwng yr ystyron, mai
"gweddill" a'i gyd-ystyron sy'n mynd a hi.
Dyma enghraifft Bruce, ar ol iddo ddarllen yr uchod: Gellid dweud "Dyma
hanner dwsin o wyau - mae dau ohonynt yn ddrwg, ond mae'r rhelyw'n iawn".
Yma, gellid cyfieithu "rhelyw" fel "rest" neu "majority". Ar y llaw eraill,
byddai'r un mor gywir i ddweud ""Dyma hanner dwsin o wyau - mae pedwar
ohonynt yn iawn, ond mae'r rhely'n ddrwg". Yma, gellid cyfieithu "rhelyw
fel "rest" neu "remainder".
Gwell defnyddio "gweddill" a "mwyafrif" meddai fo! (A gadael "rhelyw" i'r
rhelyw?)
Ann
----- Original Message -----
From: "Siân Roberts" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Friday, May 11, 2007 9:14 AM
Subject: Re: I'r gwrthwyneb
Rhian - Dyna roedden ni'n feddwl hefyd - ac roedden ni bob amser yn
cywiro pobl oedd yn defnyddio "rhelyw" i olygu "mwyafrif" ar y teledu
neu'r radio (er nad oedden nhw ddim callach!) - ond, wrth fynd i GPC
i brofi 'mhwynt rhyw ddiwrnod, beth welwn i ond:
rhelyw: lleill, rhai sydd ar ôl, gweddill, gwarged; mwyafrif;
gweddill (am arian), ôl-ddyled.
O wel! Ac mae'n debyg mai'r ystyr "mwyafrif" sydd gryfa erbyn hyn.
Hwyl
Siân
On 11 May 2007, at 08:33, Rhian Huws wrote:
> Yn ôl Canllawiau Iaith a Chymorth Sillafu J. Elwyn Hughes, nodir 'Ystyr
> 'y rhelyw' yw 'y gweddill' nid 'y rhan fwyaf' neu 'y mwyafrif', ac fel
> cyn athro i mi, mae hwn wedi ei serio ar fy nghof!
> Rhian
> Canolfan Iechyd Cymru
>
> -----Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Dewi Bowen
> Williams
> Sent: 10 May 2007 18:04
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: I'r gwrthwyneb
>
> Annwyl Huw,
> Beth am rhelyw: remainder, residue
> rhelyw: majority
> Dewi
>
> -----Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Huw Roberts
> Sent: 10 Mai 2007 10:48
> To: [log in to unmask]
> Subject: I'r gwrthwyneb
>
> Annwyl gyfeillion,
>
> Rwy*n chwilio am eiriau sydd ag union yr un sillafiad, ond ag ystyr
> gwrthwynebol. Enghraifft Saesneg yw *cleave* * hynny yw, beth wnewch chi
> â bwyell, a *I cleave to thee, my country*.
>
> Dwi wedi meddwl am *dwyn* * *Rwy*n dwyn yr enw Huw Roberts* a *Rwy*n dwyn
> eich bwyell*.
>
> Diolch yn daclus o flaen llaw.
>
>
>
> Huw Roberts
> Cyfieithydd / Translator
> (029) 2078 1432
> 07957 182 087
> [log in to unmask]
> Dros Gymru'n gwlad!
--
No virus found in this incoming message.
Checked by AVG Free Edition.
Version: 7.5.467 / Virus Database: 269.7.1/805 - Release Date: 15/05/2007
10:47
-
Special message from TalkTalk - Please help in the search for Madeleine McCann
Madeleine's aunt, Philomena McCann, has devised an email poster as she fears that Madeleine may have been taken to Spain where the girl's disappearance has generated less attention.
You can download the poster from here
http://news.aol.co.uk/web-appeal-over-missing-madeleine/article/20070510063809990001.
Anyone with information should contact the Portuguese police direct on 00 351 282 405 400 (international call rates apply) or contact Crimestoppers anonymously on 0800 555 111.
|