Dw i'n credu bod "enwog am" yn iawn - os edrychi di yng Ngeiriadur yr
Academi o dan "well-known" mae'n dweud :
well-known (for sth) - adnabyddus, enwog (am rth)
Felly "Mae Cymru'n enwog am ei glaw" neu "Mae Cymru'n enwog am fod yn
lle glawog"
Siān
On 15 Mawrth 2006, at 04:04, Howard Huws wrote:
> "Wales is famous for its rain".
>
> "Y mae Cymru'n enwog ei glaw", ynte?
>
> "Enwog am" yn gystrawen Seisnig, gan mai wedi berf neu enw y
> defnyddir "am", nid wedi ansoddair?
|