Ie, mae'n debyg. Mae'r post yn cynnwys llawer mwy na llythyron - biliau,
taflenni, cardiau post ac ati - a gellir anfon llythyr drwy sawl cyfrwng (â
llaw, drwy e-bost, ac yn sownd wrth goesau colomen - am wn i!) ac nid o
reidrwydd drwy'r post.
Erbyn hyn, yr enw a arferir am wasanaeth y post yw 'y Post Brenhinol' a go
brin y byddai 'y Llythyrdy Brenhinol' yn taro deuddeg gan mai term sy'n
disgrifio gwasanaeth sydd yma yn hytrach nag un sy'n disgrifio sefydliad.
Berwyn
----- Original Message -----
From: "Rhisiart Hincks" <[log in to unmask]>
To: "Berwyn Prys Jones" <[log in to unmask]>
Sent: Saturday, February 12, 2005 8:54 PM
Subject: Re: Council Tax
> Paham mad arferir 'llythyrdy; bellach? Gair gwych a welid ar fwy o
arwyddion
> ac a glywid yn amlach ar lafar ar un adeg, os nad wyf yn camgymryd... Ai
> oherwydd rhyw gamdybiaeth nad yw 'llythyr' yn ddigon i drosi 'post'?
>
>
> ----- Original Message -----
> From: "Geraint Jones" <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Saturday, February 12, 2005 11:23 AM
> Subject: Re: Council Tax
>
>
> > Rhisiart Hincks <[log in to unmask]>:
> > > Swyddfa'r Post.
> > > Mae swyddfa bost Llanfair yn ailagor.
> >
> > Colled mawr fu cau'r hen lythyrdy, felly?
|