Rhisiart Hincks <[log in to unmask]>:
> Paham mad arferir 'llythyrdy; bellach? Gair gwych a welid ar fwy o arwyddion
> ac a glywid yn amlach ar lafar ar un adeg, os nad wyf yn camgymryd... Ai
> oherwydd rhyw gamdybiaeth nad yw 'llythyr' yn ddigon i drosi 'post'?
Nage. Dyma un o ddrwgeffeithiau codi'r Gymraeg i safle swyddogol
yn y byd cyhoeddus. Gair a gododd yn naturiol ar dafod y werin
-- maddeuwch y gair -- ar dafod y cwsmeriaid oedd "llythyrdy",
sef swyddfa leol "y Post", neu'r GPO (y Post Cyffredinol, nid --
er pob rheswn -- y Llythyrdy Cyffredinol, gan nad oedd o'n dy o
unrhyw fath). Bodolaeth cyfieithiad swyddogol am "The Post Office",
a'r amwysedd yn yr iaith fain rhwng Swyddfa'r Post a'r swyddfa bost
sy'n gyfrifol am ei golli. Is-bostfeistri lleol, ac nid Swyddfa'r
Post, oedd yn rhoi arwyddion Llythyrdy ar lythyrdai.
Ar y llaw arall, awn ni ddim ar ol safle'r gerbydres. (Gas gen i'r
orfodaeth o enwau tu-chwith yn y drefn Saesneg ar orsafoedd rheilffordd,
er mwyn mae'n debyg, eu cael nhw mewn lle amlwg yn nhrefn y wyddor.)
|