Mi rydw i wedi rhoi grwpiau yn ffenest bcc a bydd pob aelod o'r grwpiau yn
derbyn y neges.
Dafydd
On Thu, 9 Dec 2004 14:40:44 -0000, Ann Corkett <[log in to unmask]>
wrote:
>Er nad wyf bob amser yn cofio ei wneud fy hun, gwn am ddull o anfon neges
at
>restr faith o bobl, heb ddatgelu i bob un pwy yw'r lleill, a heb ddangos
>tudalennau o gyfeiriadau:
>
>Cyfeiriwch y copi cyntaf atoch chi eich hun. Mae 'na ail ffenestr dan y
>ffenestr "To:", efo'r enw "Cc:". Pwyswch ar yr eicon a'r "Cc:" ac mi
ddowch
>at sgrin lle gallwch lwytho enwau o'ch rhestr o "Contacts" i mewn i
ffenestr
>"To:", neu "Cc:" neu "Bcc:" Mae "Bcc" yn golygu "Blind carbon copy", ac
os
>rhowch yw enwau i gyd yn y ffenestr honno, ni fydd unrhyw un sy'n derbyn
>copi yn medru gweld pwy arall sydd wedi cael un.
>
>Fel 'dych chi'n gwybod, mae'n debyg, mae modd rhoi enw ar grwp o bobl, fel
>nad oes angen teipio pob enw yn y grwp bob tro 'dych chi'n anfon atyn nhw
i
>gyd, dim ond enw'r grwp. Dw i ddim yn digwydd gwybod beth yw effaith
gwneud
>hyn yn ffenestr "Bcc:", ond mae'n werth trio.
>
>Ann
|