> Gwelaf fod ymholiad ar 30 Hydref 2003 ynghylch "low-end data storage such as
> smart cards", ond "low-end data storage" oedd yr ymadrodd dan sylw. Mae
> rhaid, felly , fod yr ymholwr wedi gorfod cyfieithu "smart card" hefyd!
Dwi'n siwr fod hwn yn nhermau MEU Cymru fel 'cerdyn smart'.
Os oes cyfle i wella ar hyn yna 'cerdyn clyfar' fase'n i'n dewis (a
ddim 'call' na 'craff'!). Fe all dyfais fod yn 'glyfar' ond byth yn
'gall' - fe all fod wedi ei gynllunio'n gall ond nid yw'n gall ynddo'i
hun, nid tan i ddeallusrwydd artiffisial ei berffeithio, ta beth.
|