> 'Rwy' i'n siwr fod hwn wedi cael ei drafod eisoes. Beth yw'r teclyn,
> os gwelwch yn dda?
Yn ffurfiol - 'rheoli o bell'. Fel arfer mae angen gwneud yn glir
fod yr offer rheoli yn rhywbeth gwahanol h.y. 'remote control unit'.
'teclyn rheoli o bell' oedd yr awgrym o'r blaen ond dwi wedi defnyddio
'rheolydd pell' hefyd.
Mi roedd son yn yr archif am y defnydd o 'gwn teledu' ond mae yna
lawer fwy o ddefnydd i'r teclynnau yma na rheoli'r teledu.
|