> 'Rwy' i'n siwr fod hwn wedi cael ei drafod eisoes. Beth yw'r teclyn, > os gwelwch yn dda? Yn ffurfiol - 'rheoli o bell'. Fel arfer mae angen gwneud yn glir fod yr offer rheoli yn rhywbeth gwahanol h.y. 'remote control unit'. 'teclyn rheoli o bell' oedd yr awgrym o'r blaen ond dwi wedi defnyddio 'rheolydd pell' hefyd. Mi roedd son yn yr archif am y defnydd o 'gwn teledu' ond mae yna lawer fwy o ddefnydd i'r teclynnau yma na rheoli'r teledu.