Mae Delyth Prys hefyd wedi fy rhybuddio ynghylch cael dewis o "Dileu" a
"Diddymu" ar yr un tudalen. Byddwn i hefyd yn ystyried yr awgrym "Terfynu
heb orffen" ar gyfer Abort, ond yn anffodus daeth yr awgrymiadau i gyd ar ol
imi ddychwelyd y gwaith.
Diolch, beth bynnag,
Ann
----- Original Message -----
From: "Geraint Løvgreen" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Monday, July 19, 2004 12:23 AM
Subject: Re: Abort, Cancel
> Dwi'n meddwl fod canslo'n well na diddymu achos canslo gweithred mae
rhywun,
> nid ei diddymu.
>
> Geraint
> ----- Original Message -----
> From: "Ann Corkett" <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Tuesday, July 13, 2004 2:41 PM
> Subject: Re: Abort, Cancel
>
>
> > Llawer iawn, iawn o ddiolch am y cyfeiriad hwn. Dw i wedi bod yn
bwriadu
> > edrych ar y wefan hon, heb sylweddoli'n iawn beth ydyw. Mae wedi bod yn
> > fodd imi gadarnhau sawl term nad oeddwn i wedi holi amdano yma, ac yn
> debyg
> > o fod o ddefnydd mawr yn y dyfodol.
> >
> > Ar ol ystyried y cynigion yno, dw i wedi defnyddio "Diddymu" ar gyfer
> > "Cancel" a "Terfynu" ar gyfer "Abort".
> >
> > Ann
> > ----- Original Message -----
> > From: "Dafydd Tomos" <[log in to unmask]>
> > To: <[log in to unmask]>
> > Sent: Tuesday, July 13, 2004 1:04 PM
> > Subject: Re: Abort, Cancel
> >
> >
> > > > 'Roeddwn i'n pendroni ynghylch "Dileu" ar gyfer "Cancel", ond gwelaf
y
> > > > gellir (gweler "CySill") cael "Delete" and "Cancel" ar yr un tudalen
a
> > bod
> > > > CySill yn defnyddio "Dileu" a "Canslo" - unrhyw sylwadau?
> > > >
> > > > Beth am "Abort"? "Atal"?
> > >
> > > Mae'n werth edrych ar:
> > >
> > > http://www.kyfieithu.co.uk/kywiro/index.php?lg=cy&
> > >
> > > ond cymerwch binsiad mawr o halen gyda'r dewis o eirfa
> > >
> > > e.e. mae fy nefnydd i o 'diofyn' yn sefyll allan ymysg y
> > > rhagosodedigion
> > >
> > > Mae 'erthyl' yn anghywir am abort yn y cyd-destun yma
> > >
> > > Mae gan 'atal' arlliw o 'prevent' sydd ddim yn rhoi'r ystyr iawn.
> > >
> > > Felly 'terfynu' fasen i'n ddefnyddio..
> > >
>
|