Llawer iawn, iawn o ddiolch am y cyfeiriad hwn. Dw i wedi bod yn bwriadu
edrych ar y wefan hon, heb sylweddoli'n iawn beth ydyw. Mae wedi bod yn
fodd imi gadarnhau sawl term nad oeddwn i wedi holi amdano yma, ac yn debyg
o fod o ddefnydd mawr yn y dyfodol.
Ar ol ystyried y cynigion yno, dw i wedi defnyddio "Diddymu" ar gyfer
"Cancel" a "Terfynu" ar gyfer "Abort".
Ann
----- Original Message -----
From: "Dafydd Tomos" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Tuesday, July 13, 2004 1:04 PM
Subject: Re: Abort, Cancel
> > 'Roeddwn i'n pendroni ynghylch "Dileu" ar gyfer "Cancel", ond gwelaf y
> > gellir (gweler "CySill") cael "Delete" and "Cancel" ar yr un tudalen a
bod
> > CySill yn defnyddio "Dileu" a "Canslo" - unrhyw sylwadau?
> >
> > Beth am "Abort"? "Atal"?
>
> Mae'n werth edrych ar:
>
> http://www.kyfieithu.co.uk/kywiro/index.php?lg=cy&
>
> ond cymerwch binsiad mawr o halen gyda'r dewis o eirfa
>
> e.e. mae fy nefnydd i o 'diofyn' yn sefyll allan ymysg y
> rhagosodedigion
>
> Mae 'erthyl' yn anghywir am abort yn y cyd-destun yma
>
> Mae gan 'atal' arlliw o 'prevent' sydd ddim yn rhoi'r ystyr iawn.
>
> Felly 'terfynu' fasen i'n ddefnyddio..
>
|