Rhyw ymbalfau ydw i tuag at yr hyn dwi'n trio'i ddeud - ac ella na ddo i
ddim i ben. Fedran nhw ddim deall f = v felly maen nhw isio iddo fo fod yn
ff digamsyniol. Mae'r syniad o dd = th ddilais y tu hwnt i bob
amgyffrediad. Fedra i weld pam basa Daffyd yn haws o lawar i Sais ei ddeud
na Dafydd. Dwn i ddim pam, ond dwi'n gallu'i deimlo fo yn fy nghylla. Tydi
hynny'n ddim esgus o fath yn y byd, cofia, a dwi'n cael cam-ynganu a
-sillafu a ballu enwa pobol yn gwbwl anfaddeuol. Wedi treulio f'oes efo enw
anghyffredin, bachais ar y cyfle pan ddois i Ynysoedd Heledd, i gael enw
newydd, roedd gymaint o gas gen i f'enw. Ella bod Daffyd yn dan ar dy groen
di ond dio ddim mor annifyr a chael dy alw'n Anus decini.
Annes
---
Outgoing mail is certified Virus Free.
Checked by AVG anti-virus system (http://www.grisoft.com).
Version: 6.0.577 / Virus Database: 366 - Release Date: 03/02/04
|