A pham mae nifer da o bobl, sydd wedi gweld fy nghyfeiriad droeon, yn
ysgrifennu ataf yn "Hoel Belmont". Mae pobl ar wasanaethau ffon o bob math
yn llwyddo i ynganu "Heol" yn eitha da y tro cyntaf iddynt ei gweld ar sgrin
cyfrifiadur, felly mae'n rhaid bod 'na rywbeth annhebygol ynghylch *golwg*
"Heol" sy'n gwneud i bobl amau cywirdeb eu llyfrau cyfeiriadau a'i newid.
Wedi dweud hynny, mae rhaid cyffadau (O na! hollol anfwriadol) mai un o'r
pechaduriaid yw fy modryb, a phan geisiais ei chywiro ynghylch rhoi
"Professor Bruce Griffiths" ar lythyrau at y Dr Bruce Griffiths, mynnodd ei
bod hi'n licio ei wneud fel 'na beth bynnag. Ond efallai, yn gyffredinol,
mae'r cam "ff-d" yn ymwneud a'r llwybrau "teipio" yn yr ymenydd, a bod y
bysedd yn gwneud yr hyn sy'n cyfarwydd iddynt, yn hytrach na'r hyn mae'r
llygaid yn dweud wrthynt - er nad yw hynny'n esgus i minnau.
Ann
----- Original Message -----
From: "Dafydd Lewis" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Monday, March 01, 2004 11:45 PM
Subject: Re: Daffyd
> Berwyn,
>
> Diolch. Efallai yn wir, ond rwy'n wirioneddol gredu fod na rywbeth i'w
> ddysgu fan hyn.
>
> Dyma gychwyn e-bost arall, a dderbyniais ond ychydig eiliadau yn ol,
> oddiwrth (Sais) yn Sir Gaerfyrddin, o ganlyniad i e-bost anfonais ato.
> Dieithryn hollol, tan heddiw:
>
> "Dear Daffyd,
> Many thanks for your note.
> Last Summer, trying out various modifications of..."
> ac ymlaen am faterion gwyddonol.
>
> Anfonwyd y neges wreiddiol gan Dafydd... cyfeiriwyd yr ateb gan y sustem
> at Dafydd... ond hefo Daffyd mae'r dyn yn cysylltu. Mae'r peth yn
> anhygoel. 25 mlynedd, 100 ebost y dydd, 10% ohonynt at Daffyd...mae'n
> rhaid fod gan rhyw ieithydd yn rhywle esboniad!
>
>
> Message has been scanned by Webshield
>
>
>
Message has been scanned by Webshield
|