Diolch i bawb a gyfrannodd, ac yn arbennig i Ann am yr eglurhad. Oherwydd
problemau gan y gweinydd, ni chyrhaeddodd fy nghwestiwn tan ryw ddeuddydd ar
ol imi ei anfon. Y ffaith na welais i'r cwestiwn wnaeth imi sylweddoli bod
'na broblem, a bu'n rhaid imi fynd a'r gwaith ar ddisg at swyddfa Cymdeithas
y Cyfieithwyr er mwyn ei ddychwelyd mewn pryd - dyna beth yw gwasanaeth
ymarferol!
Gan hynny, bu'n rhaid imi wneud penderfyniad heb help, ac 'roeddwn i'n falch
o weld wedyn bod ateb Wyn yn cyfiawnhau'r teitlau a ddefnyddiais yn y
diwedd.
Ann
----- Original Message -----
From: "Muiris Mag Ualghairg" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, February 18, 2004 10:53 AM
Subject: Re: Private Hire Vehicle Licence
> Dw i'n meddwl mai Hur Preifat sydd ar gerbydau sy'n gweithredu o'r Barri -
> ac mae sawl enghraifft ohono ar Google.
>
>
> Muiris
>
> ----- Original Message -----
> From: "Wyn Hobson" <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Wednesday, February 18, 2004 9:32 AM
> Subject: Private Hire Vehicle Licence
>
>
> Yr oedd yr hen Gyngor Bwrdeistref Aberconwy'n defnyddio "Llogi Preifat"
> am 'Private Hire'; ond ar ôl ad-drefnu llywodraeth leol ym 1996, safonodd
> uned gyfieithu Cyngor BS Conwy ar "Hurio Preifat" am 'Private Hire' (ac
> ar "Gweithredwr" am 'Operator'). Eu cyfieithiad llawn o'r ymadrodd uchod,
> felly, fuasai "Trwydded Cerbyd Hurio Preifat".
>
>
> ---
> Outgoing mail is certified Virus Free.
> Checked by AVG anti-virus system (http://www.grisoft.com).
> Version: 6.0.587 / Virus Database: 371 - Release Date: 12/02/2004
>
>
> Message has been scanned by Webshield
>
>
>
Message has been scanned by Webshield
|