Yr oedd yr hen Gyngor Bwrdeistref Aberconwy'n defnyddio "Llogi Preifat"
am 'Private Hire'; ond ar ôl ad-drefnu llywodraeth leol ym 1996, safonodd
uned gyfieithu Cyngor BS Conwy ar "Hurio Preifat" am 'Private Hire' (ac
ar "Gweithredwr" am 'Operator'). Eu cyfieithiad llawn o'r ymadrodd uchod,
felly, fuasai "Trwydded Cerbyd Hurio Preifat".
|