Ymddiheuriadau na ofynnais i farn Bruce ar hyn o'r blaen. 'Roeddwn i'n
gorfod codi negeseuon o gyfrifiadur diarth, ac erbyn y diwedd 'roedd yn
cymryd cymaint o amser i agor pob neges (gan gynnwys y diolchiadau a
sylwadau byrion), fel nad oeddwn i'n edrych ar bob dim. Mae pethau'n ol i
normal erbyn hyn - gobeithio - a dyma sylwadau Bruce.
Ann
"Oes, ma 'na batrwn y *ceisiwyd* ei ddilyn yng NgyrA.
Os yw'r ddwy elfen yn ddieithr, yn Roegaidd, er enghraifft, 'does dim
treiglad ar ol "bio-" (neu unrhyw ragddodiad dieithr arall, megis
"techno-"). Os yw'n gyfuniad o elfen ddieithr ac elfen Gymraeg (e.e.
"bioddaearyddiaeth", tasai'r fath beth mewn bod), fe fyddai treiglad. Y
cwestiwn, felly, yw a yw "prosesu" bellach i'w ystyried fel elfen Gymraeg,
yn yr un modd ag y daeth "meddygaeth", "meddyg" a "meddyginiaeth" er eu bod
yn eiriau benthyg o'r Lladin, bellach yn hollol Gymreigaidd mewn ffurfiau
megis "parafeddygol".
Bruce"
----- Original Message -----
From: "Saunders, Tim" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Tuesday, January 13, 2004 4:36 PM
Subject: Re: Bioprocess Engineering
> Quod est demonstratum!
>
> -----Original Message-----
> From: Berwyn Jones [mailto:[log in to unmask]]
> Sent: 13 January 2004 16:31
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: Bioprocess Engineering
>
>
> Rwy'n deall ymateb Dafydd gan ein bod ni'n dweud 'biocemeg' ac amryw o
> eiriau tebyg heb ystyried am eiliad fod angen treiglo. Beth, wedi'r cyfan,
a
> ddigwyddai petaem yn treiglo'r llythyren 'm' yn y gair 'micromedr'? Fe
> olygai microfedr
> 'micro-skill' - sy'n beth hollol wahanol ...
>
> Wedi dweud hynny, 'microbrosesydd' sydd yn y Termiadur ac ar sail hynny y
> byddwn i'n dadlau dros y ffurf 'biobrosesu'.
>
> Berwyn
>
> ----- Original Message -----
> From: "Dafydd Lewis" <[log in to unmask]>
> To: "Berwyn Prys Jones" <[log in to unmask]>
> Sent: Tuesday, January 13, 2004 1:39 PM
> Subject: Re: Bioprocess Engineering
>
>
> > Rhaid i mi ddweud fod 'bioproses' yn swnio'n fwy naturiol i mi.
> > dafydd
> >
>
>
> Message has been scanned by Webshield
>
>
>
>
Message has been scanned by Webshield
|