Does dim rhaid i'r ynghaniad llafar wneud tamaid o wahaniaeth i'r sumbol. Yn
yr Eidal, er enghraifft, lle maen nhw'n sôn am 'chilometri', 'chilogrammi',
ayyb, 'km' a 'kg' gewch chi mewn ysgrifen yn ddieithriad. Ac wedi'r cyfan,
rydyn ni'n defnyddio 'oz' am 'owns' a '£' am 'punt' ers canrifoedd. (Cyn i'r
Eidalwyr droi at yr arian newydd, cês f'atgoffa o darddiad y '£' pan welais
fod pris coffi yn '£3000'!).
Tim
-----Original Message-----
From: Elin Meek [mailto:[log in to unmask]]
Sent: 18 December 2003 11:14
To: [log in to unmask]
Subject: Re: centimedr
Sori, rwy'n anghytuno'n llwyr â 'Cyfieithydd' - 'c' sydd ei hangen fan hyn.
Fyddai 'sm' fel talfyriad ddim yn gwneud synnwyr o gwbl - 'cm' sy'n gywir,
ac mae centimetr hefyd yn dangos y cysylltiad â 'cant' i blant.
Y Termiadur Ysgol yw'r safon fan hyn, defnyddier 'centimetr'
Dyna ddiwedd y bregeth am heddiw, os nad oes neb eisiau dechrau gohebiaeth
am duedd erchyll Adran Chwaraeon Radio Cymru i ddweud 'Y Cwpan Carling' 'Y
Gynghrair Nationwide' 'Y Cwpan Heiniken'. Beth yw'r cyfeiriad e-bost er
mwyn cwyno? Dwi'n gymharol oddefgar fel arfer, ond mae'r arfer 'ma'n fy
hala i'n benwan.
|