Dyw hi ddim yn dilyn o reidrwydd fod ystyr 'key decision-makers' mor glir ag
yr ymddengys. Rwy'n dal i gredu mai 'the makers of key decisions' yw'r ystyr
yn hytrach na 'the key makers of decisions' neu 'key deciders'. Mewn achos
fel hwn gall y cyplysnod achosi dryswch. Byddwn i'n derbyn mai 'key-decision
makers' fyddai'r ffordd resymegol o gyfleu'r hyn rwy'n meddwl yw'r ystyr,
ond fe allai godi amwysedd rhwng 'y rhai sy'n gwneud (un) penderfyniad
allweddol' a'r 'rhai sy'n gwneud amryw byd o benderfyniadau allweddol'.
Y drafferth wrth geisio dehongli ymadroddion cyffredinol fel y rhain yw nad
oes fawr o neb y gallwn ni droi ato neu ati am ddehongliad awdurdodol o'r
ystyr wreiddiol nac o'r ystyr erbyn heddiw.
Berwyn
----- Original Message -----
From: "Dafydd Tomos" <[log in to unmask]>
To: "Berwyn Prys Jones" <[log in to unmask]>
Sent: Monday, September 29, 2003 5:15 PM
Subject: Re: key decision makers
> > Drueni bod ein cymdogion wedi rhoi'r gorau i'r cysylltnod.
>
> Wel dyna' mhwynt i dweud y gwir. Mewn llawer o ddogfennau (o'r iancs)
> dwi wedi darllen "key decision-makers", sydd yn hawdd i'w ddehongli.
>
> Erbyn i pob 'pointy-haired boss' ym Mhrydain ddechrau ddefnyddio'r
> term am ei fod yn swnio'n bwysig, mae'r cyplysnod wedi mynd a does neb
> yn gwybod be uffar mae'n feddwl - hyd yn oed i'r pwynt fod yn rhaid
> iddyn nhw ddyfeisio term newydd "key decisions".
>
|