> Cwmni gwerthu blychau a chypyrddau ayyb, os gwir y cof, a chwmni lorïau oedd
> pobl yr atebion logisteg. Mae pob math o gwmnïau yn arddel 'solutions' y
> dyddiau hyn - tybed a fedrwn ni lunio canllawiau - glossary solutions,
> yntefe - ar gyfer datrys (wps!) hyn o broblem?
Dwi ddim yn gwybod os oes yna wrthwynebiad i 'datrysiadau'
ond waeth i ni ddechrau defnyddio'r gair a'i wneud yn fwy cyfarwydd
i'r glust.
Mae yna wahaniaeth rhwng 'ateb' a 'datrysiad' ac er fod pawb a phopeth
yn cynnig 'solutions' mae yna wahaniaeth eitha pendant rhyngddynt.
Datrysiad yw'r broses o gael yr ateb cywir (neu'r gorau) i broblem
felly mae'n dangos fod yna wasanaeth yn cael ei gynnig, er mwyn canfod
y cynnyrch priodol. Mae'n awgrymu deialog er mwyn datrys y broblem tra
fod 'ateb' yn awgrymu fod rhaid gofyn y cwestiwn cywir yn y lle cynta..
|