Diolch o galon - wnes i ddim meddwl am wefan CBAC - pa mor dwp all
rhywun fod? Wedi edrych, ac argraffu, ac mae'n ateb fy ngofynion i'r
dim, hyd yn oed os yw'n rhy hwyr i stopio'r addysgwyr gael gafael ar y
gwaith papur, Meg! Mae iaith addysg wedi mynd yr un mor gyfrin ag iaith
meddygaeth, choelia i fawr - wedi'i llunio i bobl beidio deall....
Darllenais erthyglau'r SMC dro'n ol a meddwl fod y syniad yn un
ardderchog..... hoffi'r syniad o wneud i bobl berthyn i'w lle a'u
hamser.... gwnaf fy ngorau i wneud i fy nghyfieithiad drosglwyddo'r
cyffro....!
Magi
----- Original Message -----
From: "Dafydd Tomos" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Monday, August 18, 2003 11:25
Subject: Re: Y Fagloriaeth Gymreig
> Ysgrifennodd 'teulu lewis'
> > Ai dyma'r gyfrinach fwyaf yng Nghyrmu? Wrthi'n cyfieithu darn am y
> > cymhwyster newydd a methu dod o hyd i unrhyw gyfeiriad call ar wefan
y
> > Cynulliad, Google nac unrhyw google arall. Isio gweld a oes jargon
> > newydd wedi'i fathu yn neilltuol at gyfer hwn - er mwyn ei ddynwared
neu
> > ei osgoi.... Help rhywun, os gwelwch yn dda a diolch.
>
> Dwi ddim wedi gweld unrhyw restr o dermau ond mae'n bosib cymharu
> fersiynau Cymraeg/saesneg o rhai gwefannau e.e. un gan CBAC
>
> http://www.wbq.org.uk/
>
> Mae yr IWA wedi gwneud gwaith ar hyn ers peth amser
>
> http://www.iwa.org.uk/welshbac/welshbac.htm
>
> (Gwybodaeth ddwyieithiog ar waelod y dudalen)
>
> --
> Dafydd Tomos
<URL:http://www.fydd.org/d/>
|