Mae ystyr trwchfil yn ehangach nag 'insect' yn ôl Geiriadur Prifysgol Cymru
"Trychfil: Swol. Unrhyw athropod o ddosbarth yr insecta ac iddo dri phâr o
goesau, ac fel arfer un neu ddau bâr o goesau, ac fel arfer un neu ddau bâr
o adenydd, pryfyn, ***hefyd mewn ystyr letach am unrhyw greadur bach
di-diagwrn cefn amlgoesog; germ basilws, bateriwm, microb; hefyd yn
ffig.:****"
Roeddwn i'n cymryd bod y 'bach' i fodi gyfleu'r ystyr 'mini' yn 'minibeasts'
a dyna pam dw i wedi ei gyfieithu fel 'minibeasts'. Rhaid imi gyfaddef nad
wyf erioed wedi dod o hyd i ddisgrifiad cynhwysfawr o beth yw 'mini beasts'
ond dyma restr sydd ar wefan Young Entomologists' Society
http://members.aol.com/YESedu/MBPmenu.html
Spiders
Scorpions
Millipedes
Centipedes
Sowbugs and pillbugs
Incredible insects
Termites
Aquatic insects
Lacewings, dobsonflies and antlions
Butterflies and moths
Ants, bees and wasps
----- Original Message -----
From: "Dafydd Tomos" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Monday, August 18, 2003 8:51 PM
Subject: Re: trychfilod
On Mon, Aug 18, 2003 at 07:59:53PM +0100, Ann Corkett wrote:
> Mae hyn yn hollol newydd i mi. Imi, "insect" yw trychfilyn, ond 'dw i
ddim
> hyd yn oed wedi clywed am "mini beasts", felly mae'n amlwg mod i'n hollol
> anwybodus.
Mae'n demtasiwn beio'r Americanwyr am y term, ond mae e wedi bod yn
rhan o'r cwricwlwm addysg ym Mhrydain a Chymru ers rhai blynyddoedd.
Mae ACCAC wedi cyfieithu'r term fel 'creaduriaid bach' mewn un lle,
sydd yn colli'r pwynt falle. Mae rhywun o gyngor Wrecsam wedi
defnyddio 'mân-fwystfilod' sydd dwi'n credu yn gam-ddefnydd o'r gair
'mân'. O'n i'n meddwl fyddai 'bwystfilod bach' yn fwy addas.
--
Dafydd Tomos <URL:http://www.fydd.org/d/>
|