Campus, Gwen!
Dyma hi:
"Use appropriate technologies and collaborative ventures to provide
accessible, friendly, bilingual and citizen-centred services better, faster
and cheaper"
"Defnyddio technolegau priodol a mentrau cydweithrediadol i ddarparu
gwasanaethau sydd o fewn cyrraedd, sy'n gyfeillgar a dwyieithog ac sy'n
canolbwyntio ar bobl yn well, yn gynt ac yn rhatach"
Ond pam oedd rhaid imi fynd at Google i ddod o hyd i rywbeth a oedd, yn y
diwedd, ar safle'r Cynulliad - wel, efallai bod rhaid imi ddarllen y
cyfarwyddiadau'n fwy manwl yn gyntaf, ond 'dw i'n methu'n aml a dod o hyd i
bethau yno, er mod i'n teimlo mai rhaid eu bod yno.
Diolch eto,
Ann
----- Original Message -----
From: "Gwen Rice" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Thursday, February 06, 2003 4:19 PM
Subject: Re: Technolegau priodol a mentrau cydweithrediadol
> 'collaborative' am 'cydweithrediadol'?
> Gwen
>
> -----Original Message-----
> From: Ann Corkett [mailto:[log in to unmask]]
> Sent: 06 February 2003 16:15
> To: [log in to unmask]
> Subject: Technolegau priodol a mentrau cydweithrediadol
>
>
> Llawer o ddiolch i bawb sydd wedi cynnig cyngor hyd yn hyn ar wahanol
dermau
> ar gyfer y we.
>
> 'Rwyf wrthi'n cywiro dogfen Gymraeg, a'i chyfieithu i'r Saesneg wedyn.
> Mae'n cynnwys y frawddeg canlynol:
>
> 'Mae'r Cynulliad wedi dweud fod "defnyddio technolegau priodol a mentrau
> cydweithrediadol i ddarparu gwasanaethau cyfeillgar, dwyieithog ac o fewn
> cyrraedd pawb yn well, cyflymach a rhatach". '
>
> Mae'n amheus iawn gennyf a ddaeth y frawddeg Gymraeg o ddogfennau'r
> Cynulliad, ond mae'r swyddog a ysgrifennodd y ddarn hon o'r ddogfen wedi
> gadael y gwaith ers ei hysgrifennu. Byddwn i'n hoffi dod o hyd i'r
brawddeg
> Saesneg wreiddiol, er mwyn ei defnyddio yn y cyfieithiad ac, os nad yw ar
> gael yn y Gymraeg, er mwyn cynnig cyfieithiad arall. 'Dw i wedi bod
wrthi'n
> chwilio'r We yn gyffredinol, a safle'r Cynulliad", am gyfuniadau o eiriau
> megis "appropriate technology, co-operative, bilingual, cheaper, more
> cheaply". 'Does dim pwynt gwastraffu amser dibendraw arni, ond a yw'r
> frawddeg yn canu cloch gydag unrhyw un?
>
> Diolch.
>
> Ann
>
|