Llawer o ddiolch i bawb sydd wedi cynnig cyngor hyd yn hyn ar wahanol dermau
ar gyfer y we.
'Rwyf wrthi'n cywiro dogfen Gymraeg, a'i chyfieithu i'r Saesneg wedyn.
Mae'n cynnwys y frawddeg canlynol:
'Mae'r Cynulliad wedi dweud fod "defnyddio technolegau priodol a mentrau
cydweithrediadol i ddarparu gwasanaethau cyfeillgar, dwyieithog ac o fewn
cyrraedd pawb yn well, cyflymach a rhatach". '
Mae'n amheus iawn gennyf a ddaeth y frawddeg Gymraeg o ddogfennau'r
Cynulliad, ond mae'r swyddog a ysgrifennodd y ddarn hon o'r ddogfen wedi
gadael y gwaith ers ei hysgrifennu. Byddwn i'n hoffi dod o hyd i'r brawddeg
Saesneg wreiddiol, er mwyn ei defnyddio yn y cyfieithiad ac, os nad yw ar
gael yn y Gymraeg, er mwyn cynnig cyfieithiad arall. 'Dw i wedi bod wrthi'n
chwilio'r We yn gyffredinol, a safle'r Cynulliad", am gyfuniadau o eiriau
megis "appropriate technology, co-operative, bilingual, cheaper, more
cheaply". 'Does dim pwynt gwastraffu amser dibendraw arni, ond a yw'r
frawddeg yn canu cloch gydag unrhyw un?
Diolch.
Ann
|