Mae Gwasanaeth Cyfieithu'r Cynulliad yn defnyddio 'cynaliadwy' a
'cynaliadwyedd' ers blynyddoedd bellach.
Dylwn egluro nad geirfa swyddogol y Gwasanaeth Cyfieithu yw'r 'Geiriadur
Terminoleg Trefniadaeth' a welir ar wefan Bwrdd yr Iaith. Mae rhagymadrodd y
golygydd, Clive Leo McNeir, yn rhoi rhywfaint o gefndir y prosiect. Mae'r
geiriadur yn ffynhonnell werthfawr iawn, wrth gwrs, ond, fel y dywed y
golygydd, "Yr agwedd bwysicaf ar y geiriadur hwn yw y dylai ddechrau
sefydlu'r termau Cymraeg a Saesneg safonol ar gyfer y maes ac nid yw ei
gyhoeddi ond yn fan cychwyn, wrth gwrs, i broses a gaiff ei datblygu a'i
mireinio mwyfwy".
Meinir Evans
Y Gwasanaeth Cyfieithu
Swyddfa'r Llywydd
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
-----Original Message-----
From: Pennawd Cyf. [mailto:[log in to unmask]]
Sent: 15 January 2003 14:26
To: [log in to unmask]
Subject: Re: sustainability
Roedd nodyn Gareth Bevan yn ateb pwynt Magi Lewis ei bod hithau a sawl un
o'i chydnabod, gan gynnwys graddedigion a chyfieithwyr, yn teimlo bod y
ffurf 'cynaliadwy' yn swnio'n chwithig, ac yn gofyn pam na chai ddefnyddio'r
ffurf 'cynaladwy'. Dywedodd Gareth Bevan fod rhwydd hynt i bawb ddefnyddio
'cynaladwy', o ran GPC.
Hefyd, yng ngeirfa swyddogol Adran Gyfieithu'r Cynulliad, ceir 'cynaliadwy'
a 'cynaladwy', ond ar gyfer 'sustainability' ni cheir ond 'cynaladwyedd'.
Falmai a Claire
----- Original Message -----
From: "David Bullock" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, January 15, 2003 1:34 PM
Subject: Re: sustainability
Sdim problem fan'na...
Cofnodi enghreifftiau o eiriau - yn eu hamrywiol ffurfiau - yw gwaith
geiriaduron a geiriadurwyr. Wrth gwrs, mae lle iddyn nhw roi gwybodaeth am
sut mae ffurfiau'n cael eu defnyddio, eu hanes a'u tarddiad ac ati, ac mae
llawer -os nad y cyfan - ohonyn nhw'n argymell neu yn rhagnodi pa ffurf a
*ddylai* gael ei defnyddio yn eu barn nhw.
Yn achos y ferf "cynnal", mae'n ddigon clir bod bôn y ferf yn cynnwys
yr -i-, ac mai sillafiad sy'n dangos hynny sydd fwyaf cyffredin - ac mae
hynny yn aml yn eitha sylfaen ar gyfer diffinio cywirdeb.
----- Original Message -----
From: "Pennawd Cyf." <[log in to unmask]>
To: "David Bullock" <[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, January 15, 2003 12:51 PM
Subject: Re: sustainability
> Yn ystod y drafodaeth ar 'cynaliadwy/cynaladwy' ym mis Ebrill y llynedd
> nododd Gareth Bevan o Eiriadur y Brifysgol, "yn 1957 ... nid oedd gan
staff
> y Geiriadur enghraifft o'r ffurf 'cynaladwy'. Pan adolygir y gwaith, fe
> gynhwysir y ffurf 'cynaladwy' oherwydd bod gennym enghreifftiau ohoni, gan
> gynnwys un o Eiriadur Walters ar ddiwedd y 18fed ganrif."
>
> Falmai a Claire
>
This email has been scanned for all known viruses by BT MessageScan, powered
by MessageLabs
Find out more at http://www.btignite.com/uk/products/messagescan/
|