O ran "sustained" mae Bruce yn gofyn a fyddai rhywbeth fel di-ball, cyson,
di-dor, di-baid yn gwneud y tro? Edrychwch dan didor/di-dor yng Ngeiriadur
y Brifysgol ar gyfer dewisiadau eraill.
Cofion,
Ann
----- Original Message -----
From: Gwen Rice <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, January 15, 2003 12:25 PM
Subject: Re: sustainability
> Mae Geiriadur PC yn nodi 'cynaliedig, cynaledig' a 'c(h)ynaliedigaeth,
> cynaledigaeth', ond, fel mae David yn dweud, dim ond 'cynaliadwy' a
> 'c(h)ynaliaethol', a dim byd i'w weld am 'sustainability'.
>
> Wn i ddim a yw trefn y termau uchod yn arwyddocaol ('cynaliedig,
cynaledig'
> a 'c(h)ynaliedigaeth, cynaledigaeth') - h.y. y fersiwn gyda'r i a nodir
> gynta - fel y fersiwn mwyaf 'cywir' neu gyffedin, am y byddwn i, fel
> arall, wedi disgwyl gweld y geiriau wedi eu nodi yn y drefn arall - h.y.
> trefn yr wyddor.
>
> Gwen
>
> -----Original Message-----
> From: Glenys Roberts [mailto:[log in to unmask]]
> Sent: 15 January 2003 12:22
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: sustainability
>
>
> Rwy'n cymryd bod yr 'i' yn cael ei gynnwys i gydweddu â 'cynheliais' etc.
> Rwyf wrthi'n cyfieithu rhywbeth sy'n cynnwys 'sustained' hefyd -
'sustained
> funding'. Rwy'n gwneud fy ngorau i aralleirio'r frawddeg ond dydy cyllid
> hirdymor, cyllid parhaus ddim yn union yr un fath ac mae'n bosibl y bydd
> rhaid imi ddefnyddio un gair - 'cynaliedig'?
>
> Glenys
> ----- Original Message -----
> From: Gwen Rice <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Wednesday, January 15, 2003 12:00 PM
> Subject: Re: sustainability
>
>
> > Dwi'n cofio rhywbeth tebyg, ond sylwais nad oedd 'sustainability' ei hun
> yn
> > yr archif. Am 'sustainable', 'cynaliadwy' sydd gan Eiriadur yr Academi.
> > (Dyna pham, mewn gwirionedd, na wnes i gynnig term fy hun am
> > 'sustainability' wrth anfon y cais, am fy mod am i bobl ymateb yn
> reddfol.)
> > Tybed a fydd 'yr' ateb yn argraffiad nesaf Geiriadur yr Academi?
> > Diolch
> > Gwen
> >
> > -----Original Message-----
> > From: Pennawd Cyf. [mailto:[log in to unmask]]
> > Sent: 15 January 2003 12:02
> > To: [log in to unmask]
> > Subject: Re: sustainability
> >
> >
> > Wrth gyfieithu dogfen ar fioamrywiaeth y llynedd, buom yn defnyddio
> > 'cynaladwyedd'. Bu trafodaeth rywbryd y llynedd hefyd ynghylch
> 'cynaladwy'
> > v 'cynaliadwy', ac os cofiaf yn iawn, roedd y farn gyffredinol o blaid
> > 'cynaladwy'.
> >
> > Falmai
> > ----- Original Message -----
> > From: "Alison Reed(Welsh Translator)" <[log in to unmask]>
> > To: <[log in to unmask]>
> > Sent: Wednesday, January 15, 2003 11:44 AM
> > Subject: Re: sustainability
> >
> >
> > > Cynaliadwyedd?
> > >
> > > > ----------
> > > > From: Gwen Rice[SMTP:[log in to unmask]]
> > > > Reply To: Discussion of Welsh language technical terminology and
> > > > vocabulary
> > > > Sent: Wednesday, January 15, 2003 11:40 AM
> > > > To: [log in to unmask]
> > > > Subject: sustainability
> > > >
> > > > Unrhyw gynigion?
> > > > diolch
> > > > Gwen
> > > >
> > >
>
>
|