A fyddai 'gallu a methu' yn well yn y cyd-destun hwn (er bod 'gallu' a
phallu' yn apelio mwy)?
Berwyn
----- Original Message -----
From: "Sian Roberts" <[log in to unmask]>
To: "Berwyn Prys Jones" <[log in to unmask]>
Sent: Sunday, January 05, 2003 7:34 PM
Subject: Re: On/Off Phenomenom
> Mae "gallu a phallu" yn sicr yn fachog ond, i mi, ystyr "pallu" yw
> "gwrthod" a byddai'r ymadrodd yn cyfleu'r ystyr bod y claf yn gwrthod
> symud. Gellid dadlau, wrth gwrs, mai corff y claf sy'n gwrthod symud -
> ond mae arnaf ofn y gallai ymddangos fel sarhad ar y claf.
> Sian
>
> -----Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of teulu lewis
> Sent: 05 January 2003 18:53
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: On/Off Phenomenom
>
> Feiddiwn i ddim mentro ar drafodaeth academaidd am gyfieithu hefo'r rhan
> fwyaf o aelodau'r cylch - dwi ddim yn yr un cae a nifer helaeth
> ohonoch - ond mae deunydd fel hwn yn agos at fy nghalon. Ai taflenni
> gwybodaeth i gleifion yw'r rhain Ann? Os felly, anghofiwch y Saesneg yn
> gyfangwbl a rhowch eich hun yn sefyllfa'r claf cyffredin neu aelod o'i
> deulu - sy'n trio deall rhywbeth am y salwch annifyr, newydd ma
> (newydd, neu fyddech chi ddim yn trafferthu darllen taflen wybodaeth, na
> fyddech!) Mae diagnosis ambell i salwch yn ddigon o sioc heb geisio
> cymryd y manylion i mewn hefyd.
> Felly, gallu a phallu yn wych - ac ydio ots os yw'r Gymraeg yn hollol
> wahanol i'r Saesneg o ran trefn a fformat a chyfieithu pob gair cyn
> belled ag y bo'r wybodaeth angenrheidiol yn cael ei chyfleu? Oes isio
> phenomenon o gwbl? Nid yw gallu a phallu yn amhendant o gwbl, yn enwedig
> pan fydd y cyd-destun yn cyfeirio at symud. Dywedwch wrth eich cleient
> fod ei Saesneg yn ddel iawn ac yn llwyddo i gyfleu cyflwr uffernol gyda
> hiwmor bron - sydd ddim yn ddrwg o beth - ond wnaiff yr holl beth mo'r
> tro yn Gymraeg o gwbl.....
> Os mai arall yw'r gynulleidfa - mae gallu a phallu yr un mor addas - a
> bydd yn haws defnyddio geiriau mawr ar ei chyfer.......
> Mae'n syndod bod gen i unrhyw gleientiaid, wir - tydyn nhw ddim yn cael
> dweud beth mae nhw isio hanner yr amser...........Magi'n gwybod yn
> well - rial hen fydwraig......
> Cofion magi
>
> ----- Original Message -----
> From: "Ann Corkett" <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Sunday, January 05, 2003 12:28
> Subject: On/Off Phenomenom
>
>
> > Mewn perthynas a chlefyd Parkinson o hyd, dyma'r disgrifiad:
> >
> > On/Off Phenomenon This phenomenon is a characteristic of some, but by
> no
> > means all, people with long-standing Parkinson's. It can best be
> described
> > as an unpredictable shift from mobility - 'on' - to a sudden inability
> to
> > move - 'off'. 'Off' to 'on' can occur just as suddenly. Some people
> have
> > likened it to a light switch being turned on and off.
> >
> > Mae Bruce yn dweud nad oes fawr o ystyr i "Ffenomen I Ffwrdd/Ymlaen",
> ac yn
> > ffansio "Ffenomen Gallu a Phallu"! - a finnau hefyd, ond a yw'n rhy
> > amhendant? Mae'n beth od os na ddefnyddir rhywbeth yn y Gymraeg
> eisoes -
> > cyfieithiad llythrennol yn fwy na thebyg, yn anffodus.
> >
> > Beth yw'ch barn? A glywsoch chi unrhyw beth arall?
> > Diolch yn fawr am bob cymorth.
> >
> > Ann
>
> ---
> Incoming mail is certified Virus Free.
> Checked by AVG anti-virus system (http://www.grisoft.com).
> Version: 6.0.434 / Virus Database: 243 - Release Date: 25/12/2002
>
>
> ---
> Outgoing mail is certified Virus Free.
> Checked by AVG anti-virus system (http://www.grisoft.com).
> Version: 6.0.434 / Virus Database: 243 - Release Date: 25/12/2002
>
>
|