Wrth gyfieithu i Gofrestrfa Prifysgol Cymru slawer dydd, rwy'n credu (er mai
brith gof sy gen i) mai'r argymhelliad a gefais oedd defnyddio 'olraddedig'.
Dyna'r ffurf a ddefnyddiais wrth gyfieithu prosbectws Prifysgol Caerdydd,
ond barn yr Athro Sioned Davies a Wyn James wrth fwrw golwg dros y proflenni
oedd y byddai'n well ganddyn nhw'r ffurf 'o^lraddedig'. Fy newis i fyddai
'o^l-raddedig' gan mai honno yw'r ffurf sy'n cyfleu'r ynganiad a'r pwyslais
yn gywir (a dyna'r ffurf sydd hefyd i'w gweld yng Ngeiriadur yr Academi).
Fe fues i'n pwyso a mesur 'graddedig' a dod i'r casgliad, yn hwyrfrydig
braidd, y byddai'n well cadw hwnnw ar gyfer 'graded'. Wedi dweud hynny,
mae'n anodd gweld sut yn union y mae gwahaniaethu rhwng 'gradd' = 'grade' a
'gradd' = 'degree'.
Mae 'graddedigion' yn gweithio weithiau, ond nid mewn cwlwm o ansoddeiriau,
e.e. an approved modular postgraduate taught degree.
O ran 'o^l-radd', rwy'n credu mai'r ddadl yw bod angen cysondeb rhwng y ddau
ansoddair a bod 'israddedig' ac 'o^l-raddedig' yn ba^r bach taclus!
Berwyn
----- Original Message -----
From: "Gwen Rice" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Tuesday, October 01, 2002 4:20 PM
Subject: Re: postgraduate
> Does dim cyd-destun mewn golwg. Wedi sylwi ar wahanol fersiynau ydw i.
>
> -----Original Message-----
> From: Muiris Mag Ualghairg [mailto:[log in to unmask]]
> Sent: 01 October 2002 16:19
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: postgraduate
>
>
> Mae'n bosibl defnyddio 'i raddedigion' hefyd. Beth yw'r cyd-destun?
>
|