Ysgrifennodd Bruce hwn cyn darllen ymateb Berwyn, ond mae'n meddwl ei fod yn
dal yn werth imi ei anfon:
"1. I ddisgrifio myfyriwr/myfyrwraig, mae 'gradd/a^ gradd/graddedig' yn
ddigon: myfyriwr gradd, merch raddedig: mae 'merch radd' fymrym yn
chwithig er nad yw'n anghywir. Ni welaf fawr angen 'o^l-raddedig' yma.
Mae'r enw lluosog, 'graddedigion' yn gyffredin, ond nid yr enw unigol
'graddedig'.
"2. Cyfyd anhawster gyda 'postgraduate course/degree/diploma'. Ni all
*gradd* fod yn o^l-raddedig, a bod yn fanwl gywir (Ni welaf o^l-raddedig'
nac 'o^l-radd' yng Ngeiriadur y Brifysgol, er bod 'o^l-raddedig' yn sicr
mewn defnydd.) 'Cwrs/diploma/gradd uwch'; 'gradd uwch/bellach';
'cwrs/diploma/gradd i raddedigion'? A ellir dweud 'gradd wedi graddio'??"
Ann
----- Original Message -----
From: Berwyn Jones <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Tuesday, October 01, 2002 4:44 PM
Subject: Re: postgraduate
> Wrth gyfieithu i Gofrestrfa Prifysgol Cymru slawer dydd, rwy'n credu (er
mai
> brith gof sy gen i) mai'r argymhelliad a gefais oedd defnyddio
'olraddedig'.
> Dyna'r ffurf a ddefnyddiais wrth gyfieithu prosbectws Prifysgol Caerdydd,
> ond barn yr Athro Sioned Davies a Wyn James wrth fwrw golwg dros y
proflenni
> oedd y byddai'n well ganddyn nhw'r ffurf 'o^lraddedig'. Fy newis i fyddai
> 'o^l-raddedig' gan mai honno yw'r ffurf sy'n cyfleu'r ynganiad a'r
pwyslais
> yn gywir (a dyna'r ffurf sydd hefyd i'w gweld yng Ngeiriadur yr Academi).
>
> Fe fues i'n pwyso a mesur 'graddedig' a dod i'r casgliad, yn hwyrfrydig
> braidd, y byddai'n well cadw hwnnw ar gyfer 'graded'. Wedi dweud hynny,
> mae'n anodd gweld sut yn union y mae gwahaniaethu rhwng 'gradd' = 'grade'
a
> 'gradd' = 'degree'.
>
> Mae 'graddedigion' yn gweithio weithiau, ond nid mewn cwlwm o
ansoddeiriau,
> e.e. an approved modular postgraduate taught degree.
>
> O ran 'o^l-radd', rwy'n credu mai'r ddadl yw bod angen cysondeb rhwng y
ddau
> ansoddair a bod 'israddedig' ac 'o^l-raddedig' yn ba^r bach taclus!
>
> Berwyn
>
> ----- Original Message -----
> From: "Gwen Rice" <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Tuesday, October 01, 2002 4:20 PM
> Subject: Re: postgraduate
>
>
> > Does dim cyd-destun mewn golwg. Wedi sylwi ar wahanol fersiynau ydw i.
> >
> > -----Original Message-----
> > From: Muiris Mag Ualghairg [mailto:[log in to unmask]]
> > Sent: 01 October 2002 16:19
> > To: [log in to unmask]
> > Subject: Re: postgraduate
> >
> >
> > Mae'n bosibl defnyddio 'i raddedigion' hefyd. Beth yw'r cyd-destun?
> >
>
|