Maent yn swnio'n iawn imi - fodd bynnag, byddwn yn osgoi cyfieithu
'station' yn 'orsaf' bob tro'n ddi-wahan (maddeuwch y diffyg to bach!). Er
enghraifft:- work station = gweithfan, atomic power station = atomfa.
Beth am ddefnyddio term fel 'pwmpfa garthion', er enghraifft?
Sian Roberts wrote:
>
> Ydw i'n iawn i ddweud "pibell cyflenwi dwr" a "gorsaf pwmpio carthion"?
> Hynny yw, a yw'r hyn a ddywedodd Berwyn (isod) am Adran Ddiwydiant / Adran
> Diwydiant a Masnach yn wir pan fydd yr ansoddair yn ferf-enw?:
>
> "..ar o^l enw benywaidd, bydd dyn (a menyw) yn treiglo'r gair sy'n dilyn,
> ond os oes dau neu ragor o eiriau'n dilyn, a'r cysylltiad rhwng y geiriau
> hynny a'i gilydd yn gryfach na'r cysylltiad a^'r enw benywaidd, does dim
> treiglad."
--
H.K.Smith [log in to unmask]
|