Ydw i'n iawn i ddweud "pibell cyflenwi dwr" a "gorsaf pwmpio carthion"?
Hynny yw, a yw'r hyn a ddywedodd Berwyn (isod) am Adran Ddiwydiant / Adran
Diwydiant a Masnach yn wir pan fydd yr ansoddair yn ferf-enw?:
"..ar o^l enw benywaidd, bydd dyn (a menyw) yn treiglo'r gair sy'n dilyn,
ond os oes dau neu ragor o eiriau'n dilyn, a'r cysylltiad rhwng y geiriau
hynny a'i gilydd yn gryfach na'r cysylltiad a^'r enw benywaidd, does dim
treiglad."
|