Beth am roi: Man geni - 'mole'?
Berwyn
----- Original Message -----
From: "John Puw" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Friday, July 26, 2002 10:12 AM
Subject: Re: Mole (removal)
Wedi gyrru'r neges wreiddiol, edrychais yn Termau Meddygol (GPC - 1986) ac
mae hwnnw hefyd yn cynnig 'man geni' a dim arall, oni bai ei fod o'n
gwahaniaethu rhwng dau wahanol fath (blewog a hydatidffurf). Mae 'birth
mark' a 'mole' yn ddau beth gwahanol iawn i edrych arnynt hyd y gwela i, ond
mae'r consensws geiriol yn galw'r ddau beth wrth yr un enw yn y Gymraeg.
Ond oherwydd y consensws hwn, rwyf ar hyn o bryd yn gorfod defnyddio 'tynnu
man geni'. Y broblem yw mai holiadur yw hwn fydd yn cael ei ddosbarthu i'r
cyhoedd yn y Gogledd 'ma. Mae'n gorfod mynd yn ôl heddiw, a tydw i ddim yn
dymuno camarwain pobl.
Mae'r frawddeg yn darllen yn llawn - "Make minor surgery (wart, mole
removal)available"
Rwyf newydd ddarllen neges Tim - pa un ydi UyG plis?
Diolch hyd yn hyn
John
-----Original Message-----
From: Mair Edwards [mailto:[log in to unmask]]
Sent: 26 July 2002 09:41
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Mole (removal)
Dafad ydi'r gair fyddwn i'n ei ddefnyddio ar gyfer "wart" - sydd yn
wahanol i "mole", a dafad wyllt am dyfiant ar y croen sydd yn
tyfu/ehangu.
Dwi hefyd yn cytuno bod man geni yn beth gwahanol i "mole"...
...ond fedrai ddim meddwl beth fyddwn i'n galw "mole"!
Mair Edwards
>
>
> 'Dafad' yw'r term am 'mole' yn y pen yma (Llyn ac Eifionydd),
> hynny yw tyfiant, brown fel rheol, ar groen unrhyw ran o'r
> corff. Man, neu maen, geni yw staen parhaol ar y croen.
>
> Wil Roberts
> ----- Original Message -----
> From: "John Puw" <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Friday, July 26, 2002 9:01 AM
> Subject: Mole (removal)
>
>
> Marc ar groen, yn hytrach na rhes o greaduriaid yn hongian
> gerfyn eu traed ar ffens. 'Man geni' sydd yn GyrA ond roeddwn
> o dan yr argraff bod y marciau hyn hefyd yn gallu datblygu ar
> ôl geni. Rhoddir hefyd 'man du', ond rwyf wedi gweld rhai
> gwyn (neu binc neu beth bynnag yw lliw naturiol y croen). Ai
> fi sydd wedi camddarllen yn anatomegol, a beth ddylwn i alw
> 'mole removal' - mae 'tynnu man geni' yn swnio'n boenus ar y naw!!!
>
> Diolch o flaen llaw am unrhyw gymorth
>
> John Puw
>
>
>
> ---
> Outgoing mail is certified Virus Free.
> Checked by AVG anti-virus system (http://www.grisoft.com).
> Version: 6.0.375 / Virus Database: 210 - Release Date: 10/07/2002
>
|