Mi wnes i anfon hwn unwaith neithiwr, ond cael rhyw anhawster ar y pryd, a
dim meges i ddweud fod y neges wedi'i dosbarthu felly cymeraf nad yw hi ddim
.
Ar ol darllen neges Berwyn, dwedais wrth Bruce y dylai fo edrych yn y
Geiriadur cyn ymateb, rhag ofn bod ganddo fo rywbeth gwahanol yno! Dywedodd
ei fod o'n cymryd yn ganiataol bod pobl eisoes wedi edrych yn y Geiriadur a
methu cael dim cyn gofyn i'r Grwp. Ond term swyddogol sydd ei eisiau, nid
cyfieithiad yn unig, ynte?!
Ann
----- Original Message -----
From: "Ann Corkett" <[log in to unmask]>
To: "Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
including" <[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, January 16, 2002 11:49 PM
Subject: Re: verminous condition
> Mae Bruce yn awgrymu "gadael (nid "caniatau") i blentyn fod mewn cyflwr
> lleuog (?a chweinllyd)".
>
> Mae Uned Iaith Gymraeg y Gwasanaeth Llys yn rhywle yn Llangefni. Wn i
ddim
> a allen nhw helpu efo gweddill y termau. Rhif ffon Llys Llangefni, fel
man
> cychwyn, yw 01248-750225.
>
> Efallai bod hi'n werth son am eu, "Termau a ddefnyddir yn y ffurflenni a
> archwilwyd gan un ai Ei Anrhydedd y Barnwr Moseley CF, Ei Anrhydedd y
Barnwr
> Elystan Morgan neu'r Barnwr Rhanbarth Wyn Rees", rhestr y gellir ei chael
ar
> ddisg, er nad yw'n cynnwys rhyw lawer ar droseddau. Mae pob gair neu
> ymadrodd yn cael ei restru efo "Job No. or Form No." ac mae'n ymddangos
bod
> rhai o'r diffiniadau naill ai wedi'u cofnodi braidd yn fler, neu'n
> gyfyngedig i gyd-destun y ddogfen wreiddiol, e.e.issue = codi; applicant =
> ceisydd; struck out = dileu; you may need = mae'n bosib; felly mae'n rhaid
> bod yn wyliadwrus.
>
> Ann
>
>
|