Roedd hi'n anodd penderfynu beth i'w nodi yn bwnc i'r neges yma -
enghraifft yn unig yw "Permitting a child to be in a verminous condition".
Mae'r ddogfen rwy'n ei chyfieithu yn cynnwys rhestr o droseddau swyddogol,
(hynny yw, yr enwau sy'n swyddogol, am wn i, nid y troseddau!) Fyddwn i'n
meddwl bod yna ormod o gwestiynau gen i i'w cynnwys yma.
Cefais gyfieithiad ar gyfer ambell un yn "Geiriadur y Gyfraith", ond a oes
gan unrhyw un syniad lle y gallwn i fynd am gymorth pellach? Byddwn yn
gwerthfawrogi unrhyw awgrymiadau.
Eirlys W
|