Peth hollol 'naturiol' yw rhoi to bach ar lafariad hir gan mai dyna ddiben
to bach yn orgraff y Gymraeg. Cwestiwn mwy dyrys yw pa unigolyn a sylwodd
nad oedd angen rhoi to bach ar lafariad unigol mewn geiriau unsill nac ar
lafariad unigol mewn gair unsill sy'n diweddu mewn 'd', 'f' ac 's' - a
darbwyllo pawb arall i ddilyn ei 'reol'.
Caiff y Saesneg drafferthion tebyg gyda chamddefnyddio 's, fel yn tomato's!
Berwyn
----- Original Message -----
From: "Dafydd Tomos" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, October 17, 2001 11:42 AM
Subject: cam-acennu
> 'Dyw'r neges yma ddim yn holi am gyfieithu term ond yn gofyn pam fod
> pobl y dyddiau yma yn mynnu rhoi acennau ar bopeth lle na ddylai fod?
> Mae cyfieithu Cymraeg<->Saesneg yn fusnes mawr ond 'rwy'n siwr fod
> pawb yn gwybod nad yw gwaith pawb yr un mor gywir a'r mwyafrif.
>
> Un enghraifft - mae 'gwe' yn air Cymraeg ar gyfer 'web' oedd yn cael
> ei ddefnyddio yn ddigon di-drafferth cyn dyfodiad y 'we fyd-eang' a'r
> rhyngrwyd. Pam felly erbyn hyn fod cynifer o bobl yn cynnwys
> cyhoeddwyr a chyfieithwyr proffesiynol yn rhoi to bach ar yr e yn gwe?
> Oes yna unrhyw rhesymeg tu ôl i'r peth?
>
> --
> Dafydd Tomos <URL:http://www.fydd.org/d/>
>
|