'Dyw'r neges yma ddim yn holi am gyfieithu term ond yn gofyn pam fod
pobl y dyddiau yma yn mynnu rhoi acennau ar bopeth lle na ddylai fod?
Mae cyfieithu Cymraeg<->Saesneg yn fusnes mawr ond 'rwy'n siwr fod
pawb yn gwybod nad yw gwaith pawb yr un mor gywir a'r mwyafrif.
Un enghraifft - mae 'gwe' yn air Cymraeg ar gyfer 'web' oedd yn cael
ei ddefnyddio yn ddigon di-drafferth cyn dyfodiad y 'we fyd-eang' a'r
rhyngrwyd. Pam felly erbyn hyn fod cynifer o bobl yn cynnwys
cyhoeddwyr a chyfieithwyr proffesiynol yn rhoi to bach ar yr e yn gwe?
Oes yna unrhyw rhesymeg tu ôl i'r peth?
--
Dafydd Tomos <URL:http://www.fydd.org/d/>
|