Pa un sydd orau 'positif ffug' neu 'cadarnhaol ffug'?
Mae'r defnydd o 'positif' i gyfieithu 'positive' ym mhob cyd-destun yn fy
mhoeni braidd. Mewn rhai cyd-destunau nid yw'n addas defnyddio 'cadarnhaol'
e.e. ni ddylid dweud bod gwefr gadarnhaol ar ionau sodiwm. Ond mae fy
nghyneddfau hen ffasiwn ac adweithiol yn gresynu clywed am 'agweddau
positif' yn hytrach nag am 'agweddau cadarnhaol'.
Mae'r New Oxford Dictionary of English yn cynnig saith ystyr creiddiol i'r
enw 'positive', dyma rai:
1. a good, affirmative, or constructive quality or attribute
3. a result of a test ... indicating the presence of something
4. the part of an electrical circuit...
7. a number greater than zero
Ar gyfer 4 a 7 'positif' fyddai orau, ond ar gyfer 1 a 3 awgrymaf bod
'cadarnhaol' yn well. Mae'r 'false positive' yn cyfateb i ystyr 3 felly
awgrymaf 'cadarnhaol ffug'.
Ceir ystyriaethau cyffelyb wrth gyfieithu 'system'; weithiau mae 'system'
yn angenrheidiol e.e 'system treulio bwyd' am 'digestive system'; ond
'cyfundrefn addysg'. Mae'n enghraifft ddiddorol o ddylanwad y Saesneg ar y
Gymraeg a'r tuedd i ddefnyddio'r un gair yn Gymraeg am air yn Saesneg beth
bynnag fo'r cyd-destun a'r ystyr, yn enwedig pan fo'r gair Cymraeg yn debyg
i'r un Saesneg.
Prys
--
------------
J P M Jones MA PhD CChem FRSC
Deon y Gyfadran Addysg - Dean of the Faculty of Education
Trefenai
Ffordd Caergybi
Bangor
Gwynedd
LL57 2PX
tel +44 1248 382955/383013
ffacs +44 1248 383990
|