Delyth - diolch am hyn. I fod yn glir, ydy'r frawddeg olaf yn golygu nad oes
modd i mi ddefnyddio hwn eto?
Gareth
> O'r diwedd mae Microsoft wedi rhyddhau eu hoffer prawfddarllen Cymraeg
> cyntaf. Mae'n cynnwys gwiriwr sillafu sy'n gweithio o fewn cymwysiadau
> Office (Word, Access, Excel ac ati) a chysylltnodwr.
>
> Bydd y rhain yn gymorth mawr i gyfieithwyr, yn enwedig y gwiriwr sillafu
> o fewn Word (dyma'r 'sgwigls coch' wrth i chi deipio, i'r rhai sydd wedi
> arfer â defnyddio'r offer hyn yn Saesneg).
>
> Bydd y cysylltnodwr hefyd yn golygu y gallwn yn awr gynhyrchu testun
> wedi'i unioni ar ochr dde'r dudalen yn y Gymraeg, heb boeni fod geiriau
> yn cael eu hollti mewn mannau amhriodol.
>
> Canolfan Bedwyr, Prifysgol Cymru, Bangor, sydd wedi gwneud y gwaith ar
> ar gyfer Microsoft. Mae'r gwiriwr sillafu yn cynnwys y termau technegol
> sydd yn y Termiadur Ysgol a geiriaduron termau eraill y Ganolfan Safoni
> Termau.
>
> Mae modd i chi lwytho copi am ddim oddi ar safle Microsoft ar y we. Y
> cyfeiriad yw
> http://office.microsoft.com/uk/downloads/2002/WelshPtk.aspx
>
> Yn anffodus mae'r pecyn wedi'i gynllunio ar gyfer Office XP, sef fersiwn
> diweddaraf Microsoft Office, ac nid ar gyfer fersiynau cynharach.
>
> Delyth Prys
> Canolfan Safoni Termau /
> Welsh Terminology Centre
> Prifysgol Cymru Bangor
>
|