Beth am greu term cyn bod un yn y Saesneg, yn lle ceisio bob amser feddwl
am gyfieithiad.
Mae 'na ymadrodd yn Ffrangeg, "esprit d'escalier" (ysbryd y grisiau), sy'n
cyfeirio at y ffaith bod rhywun bob amser yn meddwl am rhyw ymateb
ffraith/deifiol pan mae'n rhy hwyr ('rwy'n cymryd bod yr enw Ffrangeg yn
ymwneud a^'r ffaith bod cymaint o Ffrancwyr yn byw mewn fflatiau, ac yn
meddwl am ymateb wedi stormio allan drwy'r drws ac ar y ffordd i lawr y
grisiau.
'Rwyf i bob amser yn sylwi ar ryw gamsillafu / camdreiglo / anghofio
cynnwys ffeil / rhoi rhewgell yn lle oergell ar o^l pwyso "Send" ac yn rhy
hwyr i bwyso "Cancel". 'Rwy'n siwr mai Cythraul o ryw fath, tebyg i
Gythraul y Canu, sy'n gyfrifol, ond mai Cythraul y Cyfrifiadur yn llawer
rhy gyfredinol. A oes 'na rywbeth slic ar gael?
Ann
%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%%
|